Skip to main content
Published on 18 August 2020

Mae gan Cymorth Cristnogol swyddog rhanbarthol newydd yng ngogledd Cymru. Penodwyd Llinos Roberts i’r swydd ac mae eisoes wedi cychwyn ar ei gwaith.

Llinos Roberts
Llinos Roberts

Yn wreiddiol o Felin y Wig, Sir Ddinbych, mae gan Llinos brofiad helaeth o weithio gyda Cymorth Cristnogol yn barod. Bu’n aelod o staff am y chwe blynedd diwethaf, yn gyfrifol am waith gweinyddol swyddfa Bangor. Cyn hynny, roedd wedi gwirfoddoli i’r elusen am bymtheg mlynedd a chafodd gyfle i ymweld ag India a Sierra Leone i weld gwaith partneriaid Cymorth Cristnogol drosti ei hun.

‘Rwy’n teimlo’n gyffrous iawn wrth gychwyn fy swydd,’ meddai Llinos. ‘Mae hwn yn gyfnod heriol iawn i’r mudiad ac i’r eglwysi yr ydan ni’n dibynnu arnyn nhw. Ond mae gweld yr ymateb sy wedi bod i her y Coronafirws – yn enwedig yn y maes digidol – yn fy llenwi efo gobaith. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael gweld pawb unwaith yn rhagor.’

Mae Llinos yn dod â phrofiad helaeth gyda hi i’w rôl newydd fel Swyddog Ysgogi Eglwysi a Chodi Arian. Ar ôl gadael Ysgol y Berwyn aeth i weithio i Fanc y Midland, cyn cael gwaith fel Swyddog Dyngarol Urdd Gobaith Cymru. Yn fwy diweddar bu’n Swyddog Cymunedol gydag eglwysi Trefor, Gwynedd.

‘Mae gweld y gwahaniaeth y mae cyfraniadau ariannol bach a mawr cefnogwyr Cymorth Cristnogol yn ei gael yn sbardun pwysig imi yn fy ngwaith. Mae’r byd yn decach ac yn fwy cyfiawn oherwydd y gefnogaeth hon - er bod digon eto o waith i’w wneud. Yn benodol, mae gennym waith mawr i’w wneud ar yr argyfwng hinsawdd ac mae helpu’r eglwysi i ymgyrchu ar bwnc mor allweddol yn rhan hynod bwysig o’r swydd,’ meddai Llinos.

Meddai Cynan Llwyd, Pennaeth Gweithredol Cymorth Cristnogol yng Nghymru, ‘Mae Cymorth Cristnogol wedi mynd trwy newidiadau mawr yn ddiweddar. Rydym wedi cau ein swyddfeydd ym Mangor a Chaerfyrddin, ond er hynny mae gennym swyddogion yn parhau i fod ar lawr gwlad a bydd Llinos yn aelod gwerthfawr iawn o’r tîm. Mae ei phrofiad eang a’i hangerdd dros sicrhau cyfiawnder i’r tlawd yn gryfderau pwysig ac rwy’n edrych ymlaen at weld ein gwaith yn datblygu ar draws y gogledd yn y blynyddoedd nesaf.’

Fel rhan o’r newidiadau i Cymorth Cristnogol, swyddfa Caerdydd fydd cyswllt cyntaf y gwaith ar draws Cymru gyda swyddogion penodol yno i ymateb i alwadau cefnogwyr ar draws y wlad. Dylid anfon pob gohebiaeth i Gaerdydd. Ceir yr holl fanylion cyswllt ar y wefan.