Sefydlwyd Cymorth Cristnogol yn 1945 gan eglwysi Prydain ac Iwerddon i gynorthwyo ffoaduriaid yn Ewrop ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Mae eglwysi yng Nghymru wedi bod yn rhan allweddol o'r gwaith ers y dyddiau cynnar.
Heddiw, ni yw asiantaeth cymorth, datblygu ac eiriolaeth swyddogol 41 o eglwysi sy’n ein noddi ym Mhrydain ac Iwerddon, gan uno mewn gobaith ac undod â chymunedau ledled y byd i herio tlodi ac anghyfiawnder eithafol.
Yr eglwysi sy'n ein noddi yng Nghymru
Yn ogystal â phartneriaeth agos â Cytûn:Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, mae’r eglwysi yng Nghymru sy’n noddi ac yn perchenogi ein gwaith yn cynnwys:
- Eglwys Bresbyteraidd Cymru | The Presbyterian Church of Wales The Presbyterian Church of Wales | The Presbyterian Church of Wales
- Yr Eglwys yng Nghymru | The Church in Wales Eglwys yng Nghymru - The Church in Wales
- Undeb yr Annibynwyr Cymraeg | The Union of Welsh Independents The Union of Welsh Independents
- Undeb Bedyddwyr Cymru | Baptist Union of Wales
- Yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig, Synod Cenedlaethol Cymru | United Reformed Church, National Synod of Wales URC Wales Synod – United Reformed Church National Synod of Wales
- Yr Eglwys Fethodistaidd, Synod Cymru | The Methodist Church, Wales Synod Cymru Home | Wales Synod Cymru
- Byddin yr Iachawdwriaeth, Ranbarth Cymru | Salvation Army, Wales Division Wales | The Salvation Army
- Crynwyr Cymru | Quakers in Wales Crynwyr Cymru
- The Congregational Federation in Wales - Congregationalist Churches
Rydym yn atebol i'r enwadau yma am ein gwaith. Trwy gyfarfodydd rheolaidd a partneriaethau gwahanol, rydym yn cydweithio yn lleol, rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Pwyllgor Cenedlaethol Cymorth Cristnogol Cymru
Mae Pwyllgor Cenedlaethol Cymorth Cristnogol Cymru yn cynnwys cynrychiolwyr o’r eglwysi yma yng Nghymru a Cytûn er mwyn llywio gweledigaeth y mudiad yng Nghymru. Cadeirydd y pwyllgor yw’r Parch Andrew Sully, sydd hefyd yn ymddiriedolwr yr elusen.
Mae partneriaieth yn gwneud byd o wahaniaeth
Mae eglwysi Cymru a’n partneriaid yn galluogi gwaith arloesol ar draws y byd. Mae’r mathau o brosiectau canlynol wedi cael eu cynorthwyo gan apeliadau enwadol eglwysi Cymru a gan Gynllun Grantiau Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.
Kenya, 2021. Wrth i'r her hinsawdd effeithio ar argaeledd adnoddau a heddwch, daw Jennifer Gudere a Grŵp Merched Siligi at eu gilydd i gynyddu llais, gwytnwch a chynnyrch gyda chefnogaeth ein partner PACIDA.
Image credits and information
Zimbabwe, 2023. Blessings Muzori yn cynaeafu te Zumbani. Drwy hyfforddiant mewn amaethyddiaeth sy’n ystyriol o’r hinsawdd, rheoli risgiau trychineb, technegau cynilo a sgiliau eiriol ac arwain, mae cymunedau’n datblygu eu gwytnwch ac yn arallgyfeirio eu hincwm a’u maeth.
Image credits and information
Ein partneriaid a’n rhwydweithiau trydydd sector yng Nghymru
Ni fedrwn gyrraedd ein gweledigaeth o ddod â terfyn ar dlodi ar ein pen ein hunain. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill yng Nghymru i gryfhau ein lleisiau ac i ysgogi mwy o weithredu ar gyfiawnder hinsawdd, cyfiawnder dyled, heddwch a chydsefyll byd-eang. Ymhlith ein rhwydweithiau mae:
- Grŵp Asiantaethau Datblygu Tramor Cymru (WOAG): grŵp o fudiadau dyngarol a datblygu rhyngwladol yng Nghymru sydd yn codi llais i ddylanwadu ac ysgogi camau at gyfiawnder ac undod byd-eang.
- DEC Cymru: pan ddaw apêl gan y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau, rydym yn gweithio gyda’r mudiadau dyngarol sydd yn aelodau DEC yng Nghymru i ysgogi ymateb gan bobl Cymru.
Image credits and information
- Cyfiawnder Hinsawdd Byd-eang Cymru: Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, cydweithiwn i sicrhau bod gweithredu hinsawdd yng Nghymru yn seiliedig ar ddealltwriaeth ddofn o gyfrifoldeb byd-eang, yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at lesiant byd-eang ac sy’n sefydlu Cymru fel llais gweithgar ar lwyfan y byd.
- Climate Cymru: fudiad gweithgar sy’n cynnwys dros 400 o sefydliadau amrywiol o bob rhan o gymdeithas Cymru. Mae gennym oll awydd cytûn i weld weithredu teg ac ar frys i fynd i'r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur.
- A Rocha: Mae'r cynllun Eco Church yn cynorthwyo eglwysi i gysylltu materion amgylcheddol â’u ffydd a’u cenhadaeth Gristnogol, ac ymateb trwy weithredu’n ymarferol yn yr eglwys, ym mywydau pobl, ac yn y gymuned leol a byd-eang.