Skip to main content

Mae cynllun achredu Cymdogion Byd-eang yn bartneriaeth rhwng Cymorth Cristnogol a'r Eglwys yng Nghymru. Mae’r cynllun ar gael i bob ysgol gynradd yng Nghymru ac yn cynnwys tair lefel – Efydd, Arian ac Aur. Dyma ein ffordd o gefnogi, cydnabod a dathlu popeth mae ysgolion cynradd yng Nghymru yn ei wneud i ddarparu addysg byd-eang safonol.

I gyrraedd achrediad, bydd ysgolion yn arddangos sut maent yn ateb meini prawf mewn perthynas â: 

  • arweinyddiaeth, gweledigaeth a gwerthoedd
  • addysgu a dysgu
  • cydaddoli
  • datblygiad ysbrydol
  • cyfranogiad dysgwyr mewn dinasyddiaeth fyd-eang weithredol
  • ymgysylltu â'r gymuned 

Sut fydd ysgolion yn elwa o’r cynllun?

Mae Cymdogion Byd-eang yn darparu fframwaith ar gyfer meddwl am addysg dinasyddiaeth fyd-eang mewn ysgolion. Byddwch yn cael syniadau ar gyfer y cwricwlwm ac addoli ar y cyd i’ch galluogi i wau persbectif byd-eang i’ch darpariaeth gwricwlwm presennol, a fydd yn eich cefnogi chi i helpu pobl ifanc i ddod yn ddinasyddion byd-eang gweithredol. 

Mae’r cynllun yn anelu i gynyddu dealltwriaeth disgyblion o wraidd achosion tlodi ac anghyfiawnder, yn ogystal ag ymgysylltu a grymuso disgyblion fel gweithredwyr dros newid yn nhrawsnewidiad ein byd. 

Mae Cymdogion Byd-eang yn cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru oherwydd ei fod yn: 

  • cefnogi ysgolion i ganolbwyntio ar y pedwar diben, yn enwedig y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y dyniaethau
  • annog disgyblion i archwilio sut mae dylanwadau, penderfyniadau a gweithredoedd yn effeithio arnynt hwy, ar eraill ac ar gymdeithas ehangach, nawr ac yn y dyfodol ill dau, gan gefnogi rhai o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig mewn iechyd a lles. 

Gall Cymdogion Byd-eang hefyd wella darpariaeth Addysg Grefyddol mewn ysgolion trwy gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion am pam a sut mae Cristnogion, ynghyd â phobl o grefyddau eraill a’r rhai nad oes ganddynt grefydd, eisiau newid y byd i un lle gall pawb fyw bywyd llawn, yn rhydd o dlodi. 

Trwy helpu disgyblion i hawlio eu llais fel dinasyddion byd-eang, bydd cymryd rhan yn y cynllun yn cefnogi ysgolion i ddatblygu ac arddangos eu gwaith yn helpu disgyblion i ddod yn ddinasyddion byd-eang gweithredol ac eiriolwyr dewr dros newid yn y byd, o’r lefel lleol i’r lefel byd-eang. 

Mae hefyd yn enwedig o ddefnyddiol i gwrdd â rhai o’r meini prawf mewn archwiliad Adran 50 o ysgolion Yr Eglwys yng Nghymru. 

 

bilingual arrow up CA logo
Church in Wales logo
Cofrestrwch ar gyfer Cymdogion Byd-eang

Dewch i ni ymuno â’n gilydd i ddangos i bobl ifanc y pŵer sydd ganddynt i drawsnewid y byd hwn! Cofrestrwch.