Event details
Capel Tabernacl, Yr Ais
Caerdydd canolog
CF10 1AJ
United Kingdom
Ymunwch â ni yng Nghaerdydd ar nos Fercher 17 Medi am noson arbennig i nodi pen-blwydd Cymorth Cristnogol yn 80.
Fe garwn estyn gwahoddiad i chi ymuno am luniaeth ysgafn o 5.30yh. cyn i’r oedfa gychwyn am 6.30yh.
Cawn gwmni Cyfarwyddwyr a Bwrdd Ymddiriedolwyr Cymorth Cristnogol, ac anerchiadau gan Patrick Watt, Prif Weithredwr Cymorth Cristnogol, Esgob Sarah Mullally, Cadeirydd Cymorth Cristnogol ac Esgob Llundain, a Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Mwy o fanylion cyn bo hir.
Ymunwch â ni
Plîs llenwch y ffurflen i gofrestru. Croeso cynnes i chi a gwesteion i ymuno - plîs rhannwch y ddolen iddyn nhw gofrestru hefyd.
Ni fydd tocyn ar gyfer y noson yma, ond bydd cofrestru yn helpu ni gyda niferoedd a chadw mewn cysylltiad gyda chi.
Os ni fedrwch cofrestru arlein, plîs gadewch i ni wybod eich bod yn dod trwy cysylltu ar 029 2084 4646 neu cymru@cymorth-cristnogol.org.
Lluniau
Mae Capel Tabernacl yng nhanol dinas Caerdydd, dim ond ychydig funudau o gerdded o Orsaf Dren a Gorsaf Fysiau Caerdydd Canolog. Mae digon o feysydd parcio hefyd o fewn ychydig funudau o gerdded.
Cyrraedd yno
Byddwn yn tynnu lluniau a/neu'n recordio fideo yn ystod y digwyddiad, a all gael eu defnyddio at ddibenion hyrwyddo.
Os nad ydych am ymddangos ynddynt, plîs rhowch wybod i staff Cymorth Cristnogol ar y diwrnod.
80 mlynedd o obaith
Edrychwn ymlaen eich gweld yng Nghaerdydd ar 17 Medi. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth eglwysi Cymru dros yr 80 mlynedd diwethaf.
Ers 80 mlynedd, gobaith sydd wedi ein huno â chymunedau ledled y byd i herio tlodi ac anghyfiawnder eithafol. A gyda’ch cefnogaeth, rydym wedi estyn gobaith i gymunedau sydd ei angen y mwyaf.
Dros yr 80 mlynedd yma, rydym wedi harneisio rhywbeth aruthrol: grym anorchfygol gobaith.
A hoffech chi gynnal digwyddiad neu oedfa o ail-ymrwymiad yn lleol, gan ddefnyddio ein harddangosfa 80 mlynedd? Cysylltwch â ni: cymru@cymorth-cristnogol.org