Event details
Lawnt Neuadd y Ddinas
Caerdydd
CF10 3ND
United Kingdom
Gallwch chi fod yn rhan o Tîm Cymorth Cristnogol!
I redeg gyda ni bydd yn rhaid i chi dalu ffi gofrestru o £25 a gosod £350 fel eich targed codi prês.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn rhedeg gyda ni ar gyfer Oysho Hanner Marathon Caerdydd 2026 cliciwch y botwm isod i'n ebostio gyda'r atebion i'r cwestiynau isod:
- Beth sydd wedi eich ysbrydoli i redeg dros Cymorth Cristnogol?
- Sut ydych chi'n bwriadu codi arian?
Os oes gennych chi le eich hun, gallwch chi redeg gyda ni o hyd. Cysylltwch â cymru@cymorth-cristnogol.org i helpu gefnogi ein gwaith sy'n newid bywydau.
Beth gewch chi fel rhan o Dîm Cymorth Cristnogol
Os ydych chi wedi sicrhau lle eich hun, byddem wrth ein bodd eich croesawu i Dîm Cymorth Cristnogol. Fel rhan o'n tîm, byddwch chi'n derbyn:
- Fest rhedeg Cymorth Cristnogol wedi’i brandio.
- Cefnogaeth barhaus gyda'ch taith codi arian.
- Cefnogaeth wedi'i bersonoli gan ein Tîm Codi Arian Digwyddiadau gan gynnwys galwadau ffôn a diweddariadau e-bost rheolaidd.
- Canllawiau ar hyrwyddo a gwneud y mwyaf o'ch codi arian trwy dudalennau rhoi ar-lein ac adnoddau datganiadau i'r wasg.
- Digon o anogaeth, brwdfrydedd a chefnogaeth drwy gydol eich her.
Gwirfoddoli gyda ni
Os hoffech ymuno â ni i gefnogi ein rhedwyr, byddem wrth ein bodd yn eich cael yn rhan o'r tîm hefyd.
Ebostiwch cymru@christian-aid.org neu ffoniwch 029 2084 4646 i gysylltu â ni.