A Prayer for the Holy Land - Welsh
Gweddi dros y Tir Sanctaidd ar gyfer Medi 21
Dad Grasol, daeth dy Fab bendigedig, Iesu Grist o’r nefoedd i fod yn fara’r gwirionedd sy’n rhoi bywyd i’r byd.
Yn dy drugaredd, dyro fwyd i bawb yn Gaza a thu hwnt sy’n dioddef o newyn er mwyn iddynt dderbyn bara materol i fwydo eu cyrff a bara nefol i gynnal eu heneidiau.
Trwy rym dy Ysbryd, tyrd â’r rhyfel creulon hwn i ben ar frys gyda rhyddhad i’r holl garcharorion, gofal meddygol i’r clwyfedig, cysur i’r rhai sydd wedi colli anwyliaid ac agor llwybr i greu heddwch cyfiawn a pharhaol yma yn y wlad lle bu dy Fab, ein Harglwydd Iesu Grist ei hun yn gweini yn ystod ei fywyd daearol.
Yr hwn sy’n byw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Sanctaidd, un Duw, yn awr a hyd byth.
Written by The Most Reverend Dr. Hosam E. Naoum, Anglican Archbishop in Jerusalem
View the prayer in EnglishJoin us in prayer on 21 September to coincide with UN World Peace Day and the global call to prayer from the World Council of Churches.