Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain, Daw dydd ni bydd mwy y rhai mawr, Daw'r bore ni wêl ond brawdoliaeth Yn casglu teuluoedd y llawr.
Cafodd ein clustiau eu llenwi gan gerdd Waldo Williams dros yr haf, gyda’r Eisteddfod yn ardal Y Garreg Las. Mae’r geiriau yma o’i gerdd ‘Plentyn y ddaear’, wedi’i sgwennu ym mis Mai 1939 dan gysgod yr Ail Ryfel Byd, yn atseinio trwy’r blynyddoedd ac yn teimlo’n berthnasol tu hwnt i ni yn y tymor yma wrth i barhau i ddyheu am heddwch a chyfiawnder.
Mae misoedd yr haf yn sicr wedi teimlo’n drwm o ran argyfyngau dyngarol ar draws y byd. Yn fuan ar ôl Wythnos Cymorth Cristnogol ym mis Mai, cychwynnodd ein partneriaid yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo ymateb i’r Argyfwng Ebola lle mae risg mawr bod y feirws yn mynd tu hwnt i rheolaeth. Rydym hefyd wedi bod yn gweithredol trwy ein parteriaid yn y Gynghrair ACT i ymateb i’r daeargrynfeydd yn Venezuela dechrau mis Gorffennaf a’r llifogydd angheuol yn Nepal ar ddiwedd mis Awst. Mae ein partneriaid yn darparu lloches frys, bwyd, dŵr a chyfleusterau glanweithdra, a gofal iechyd a seicolegol. Wrth i ni barhau yn yr ymatebion yma dros y misoedd sydd i ddod, mae’n bwysig i bwysleisio mai eich brawdoliaeth a chefnogaeth ffyddlon sydd wir yn ein galluogi ni i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i anghenion teuluoedd y llawr – diolch.
Cynhaeaf - De Sudan a'r argyfwng hinsawdd
Trwy ein Hapêl Cynhaeaf eleni, rydym yn taflu golau ar realiti bywyd cymunedau yn Ne Sudan, gwlad sydd yn parhau i brofi gwrthdaro, dadleoliad, ansicrwydd bwyd ac effeithiau dwys yr argyfwng hinsawdd. Mae dros 7 miliwn o bobl – hanner y boblogaeth – yn wynebu newyn a chyfraddau uchel o ddiffyg maeth, ac eto yn anaml byddwn yn clywed sôn yn y penawdau.
Rydym oll wedi cael blas yr haf yma ar realiti'r argyfwng hinsawdd yng Nghymru. Yr haul braf ar yr un llaw, ond amodau sych, ofn y tanau gwyllt, straen ar fywyd amaeth a’n iechyd ar a llaw arall.
Mwy a mwy rydym yn gweld yr angen agos yng Nghymru i ni addasu i’r argyfwng hinsawdd. Ac er ei bod hi wedi bod yn galonogol i weld y Llywodraeth Cymru newydd yn gosod cynlluniau i gyrraedd y nod o net sero erbyn 2040, sydd wir ei angen - y gwirionedd yw bod ein partneriaid yn llefydd fel De Sudan wedi bod yn addasu i’r argyfwng hinsawdd ers degawdau ac yn galw am weithredu brys sydd dal ddim yn dod yn ddigon cyflym.
Yn Ne Sudan mae teuluoedd yn stryglo i ffermio eu tir oherwydd y tymhorau newidiol a llifogydd, hyn yng nghanol argyfwng dyngarol dwys yn barod. Yn yr Apêl Cynhaeaf mae gwahoddiad i rannu stori Anok Kon a’i theulu yn ardal Aguat sydd wedi bod yn wynebu heriau sychder a llifogydd dinistriol. Gyda chymorth gan bartneriaid Cymorth Cristnogol, mae Anok a’i chymuned wedi gallu datblygu dulliau o dyfu cnydau sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd yn well, ac wedi adeiladu argae a fydd yn dargyfeirio dŵr llifogydd oddi wrth bentrefi a thir fferm.
Llygad ar Dde Sudan - cyfarfod partneriaid yng Nghymru
Bydd sawl cyfle gennym yng Nghymru i glywed yn uniongyrchol gan ein staff a phartneriaid o Dde Sudan yn ystod mis Medi a Hydref.
Ymunwch â ni ar ddydd Mawrth 22 Medi am 1 o’r gloch, am sgwrs rithiol gyda James Wani, Arweinydd Rhaglen a Phartneriaeth Dde Sudan Cymorth Cristnogol yn Juba: Llygaid Cymru ar Dde Sudan - gwebinar | Christian Aid
Ac ar 19-21 Hydref, byddwn yn croesawu Angelina Nyajima Simon Jial i Gymru. Angelina ydy Sefydlwr a Chyfarwyddwr Hope Restoration South Sudan, un o bartneriaid Cymorth Cristnogol. Mae gwahoddiad arbennig i Fwstwyr Abertawe i glywed stori Angelina dan arddangosfa celf drawiadol y Gaia a mwy o gyfleoedd hefyd. Cwrdd â'n partneriaid o Dde Sudan yng Nghymru | Christian Aid
Edrychwch allan am fwy o fanylion ar y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol.
Amser i Weithredu
Heddwch cyfiawn i bawb sy’n galw’r Tir Sanctaidd yn gartref
Dros fisoedd yr haf, lansiwyd Cymorth Cristnogol a phartneriaid eraill yr ymgyrch ‘Amser I Weithredu’.
Ar draws Israel a Palestina, mae cymunedau yn byw drwy drais, colled ac anghyfiawnder dinistriol. Mae Cristnogion Palestinaidd wedi galw ar yr eglwys fyd-eang i ymateb nid mewn tawelwch neu anobaith, ond gyda dewrder, trugaredd, a gweithred.
Mewn arwydd o undod, daeth arweinwyr eglwysig o bob cwr o Gymru ynghyd yn yr Eisteddfod i gyd-sefyll dros heddwch yn y Tir Sanctaidd. Roedd Archesgob Cymru, Esgob Tyddewi ac Esgob Llandaf yn sefyll ochr yn ochr â chynrychiolwyr Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, y Crynwyr, Cytûn, yr Eglwys Fethodistaidd, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Mae adnoddau gennym i ysbrydoli eich eglwys i weithredu dros heddwch cyfiawn, gan gynnwys Trefn Gwasanaeth a Chanllaw Trafod ar gael yn Gymraeg.
Nôl i'r Ysgol - Addysg nid Dyled
Cwestiwn ar thema wahanol i chi yn olaf! Be oedde ti’n breuddwydio fod pan yn yr ysgol? Gofodwr, meddyg, morwr, plismon.
Dyma rai o’r ymatebion a chlywsom gennych yn ddigwyddiadau’r haf. Cwestiwn agoriadol gwych yn wahanol i’r arferol ‘o le ydych chi’n dod?’ ac yn olwg ar sut mae Duw wedi bod ar waith yn ein bywydau ers ein dyddiau cynnar.
Wrth i blant ein cymunedau yng Nghymru mynd yn ôl i’r ysgol – athrawon, gwersi, amser chwarae – ac wrth i oedolion mynd yn ôl i’r gwaith a phatrwm y tymor newydd, rhaid i ni gofio pa mor bwysig oedd ein dyddiau cynnar yn yr ysgol. Y cyfle i freuddwydio am ein dyfodol. Ond mewn nifer fawr o wledydd o amgylch y byd, mae anghyfiawnder economaidd a baich dyled yn dwyn gobeithion a breuddwydion ein plant. Mewn rhai ysgolion ym Malaŵi, does dim ond un athro i bob 100 o blant. Yn wir, mae nifer o lywodraethau byd yn gwario mwy o’u cyllid yn ad-dalu dyledion, nac y ydym ni’n gwario ar addysg, iechyd a thaclo’r argyfwng hinsawdd.
Wrth i ni fynd nol i’r arfer, ‘nol i’r ysgol’ ar gychwyn y tymor newydd, hoffwn estyn wahoddiad i chi sgwennu at eich Aelodau Seneddol yn San Steffan, eu holi am eu breuddwydion pan oedden nhw yn yr ysgol, a gan ofyn iddyn nhw sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno cyfraith ar ddyled gyfiawn ac atal benthycwyr preifat rhag rhoi elw o flaen pobl. Canfyddwch lythyr i sgwennu at eich AS yma.
Mae’r galwad i ni weithredu dros gyfiawnder yn y tymor hwn yr un mor gryf ag erioed ac mae llawer i’w gwneud. Gobeithio i chi medru ymuno â ni wrth herio’r systemau a strwythurau o blaid plant y llawr, at gyfiawnder a bywydau’n rhydd o dlodi.