Skip to main content

Ers wyth degawd mae Cymorth Cristnogol wedi bod yn fynegiant o ffydd yng ngrym anorchfygol gobaith i greu byd mwy cyfiawn a heddychlon. Rydym yn fudiad anhygoel o bobl a phartneriaid sydd yn cydweithio i greu byd lle gall bawb fyw bywyd llawn, heb dlodi. Ac yn fudiad y mae sawl cymuned yma yng Nghymru wedi bod yn rhan ohono o'r cychwyn cyntaf.  

Mae’r achos wedi’i sefydlu a’i berchnogi gan eglwysi ar draws yr Deyrnas Unedig ac mae ein gwreiddiau yng Nghymru yn ddwfn.

Dyma gipolwg ar gynnydd y gwaith, gyda hanesion o Gymru.

1940au

Dechreuodd Cymorth Cristnogol yn 1945, pan sefydlwyd yr elusen gan eglwysi Prydain ac Iwerddon i gynorthwyo ffoaduriaid yn Ewrop ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Ar y dydd Sul cyntaf ar ôl Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, dyma eglwysi Prydain yn cwrdd i weddïo dros heddwch ac yn cynnal casgliad. Fe gasglwyd dros £80,000 (tua £3 miliwn yn arian heddiw) yn y Deyrnas Unedig, a hyn wedi mynd at eitemau hanfodol ar gyfandir Ewrop dan yr enw Christian Reconstruction in Europe.  

 

Image credits and information i
Refugee woman holding baby Credit: Christian Aid
Refugee woman holding baby
Image credits and information i
Gwynne Hodge with his dog Remo. Gwynne Hodge founded the Mumbles Christian Aid Group in 1948, following his experience as a Prisoner of War in Burma during World War Two. Credit: Gwynne Hodge
Gwynne Hodge with his dog Remo.

Tyfodd cefnogaeth i’r achos yn y dyddiau cynnar yng Nghymru. Roedd grŵp Cymorth Cristnogol y Mwmbwls yn un o’r grwpiau cyntaf i’w sefydlu yng Nghymru yn 1948 gan Gwynne Hodge, aelod o Eglwys y Bedyddwyr y Mwmbwls a Charcharor Rhyfel yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gorfodwyd Gwynne i weithio ar y Rheilffordd Marwolaeth yn Burma, Myanmar heddiw. Unwaith adref, ac wedi’i ysbrydoli gan garedigrwydd pentrefwyr lleol Burma a wthiodd fwyd ffres drwy ffens ei wersyll carchar, ymrwymodd i wneud popeth o fewn ei allu dros bobl mewn angen.  

1950au

Lansiwyd Wythnos Cymorth Cristnogol yn 1957 i godi arian ychwanegol wrth i'r gwaith o helpu ffoaduriaid barhau yn Ewrop, yn ogystal ag ymateb i anghenion ffoaduriaid o Balesteina, Corea a Tsieina.  Pan lansiwyd yr Wythnos, fe mabwysiadwyd yr enw Wythnos Cymorth Cristnogol yn syth yng Nghymru. 

Trefnwyd casgliadau mewn 20 o lefydd yng Nghymru yn ystod yr Wythnos Cymorth Crisntogol cyntaf: Aberdâr, Aberystwyth, Rhydaman, Bangor, Bedwas, Blaenddulais, Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn, Dowlais a Merthyr Tydfil, Ffestiniog, Llwyngwril, Llandudno, Y Drenewydd, Llangollen, Pontardawe, Abertawe, Tonyrefail, Y Trallwng ac Ystalyfera.  

Erbyn hyn, Wythnos Cymorth Cristnogol yw’r wythnos codi arian hynaf yn y Deyrnas Unedig. 

Tyfodd yr achos yng Nghymru diolch i unigolion ysbrydoledig fel Irene Williams. Roedd Irene yn arloesol yn adeiladu gwaith Cymorth Cristnogol, neu Cymorth Rhyng-Eglwysi, yr enw ar y pryd, yn y dyddiau cynnar. Helpodd Irene i sefydlu’r grwpiau Cymorth Cristnogol cyntaf yng Nghymru a threfnodd y casgliad o ddrws-i-ddrws cyntaf ar gyfer Wythnos Cymorth Cristnogol yng Nghaerfyrddin. Casglwyd £64 yn y casgliad hwn, gan ddefnyddio pacedi gwag Ovaltine, halen ac OXO fel tuniau casglu arian.  

Image credits and information i
Irene Williams oedd wedi chwarae rôl arloesol yn tyfu cefnogaeth i waith Cymorth Cristnogol yng Nghymru yn y 1950au. / Irene Williams pioneered support for Christian Aid in Wales in the 1950s. Credit: Llun yn garedig gan y teulu Williams / Photo kindly provided by the Williams family 
Irene Williams pioneered support for Christian Aid in Wales in the 1950s.

1960au

Ymatebodd ein eglwysi i argyfyngau dyngarol yn Nigeria/Biafra, Kenya ac India. Sefydlwyd y Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC) fel bod asiantaethau datblygu yn cael eu gweld yn cydweithio mewn argyfyngau dyngarol. Fe wnaethon ni fynd i’r afael â hiliaeth a thlodi yn yr Unol Daleithiau yn ogystal â chynghori Martin Luther King tra roedd yn y DU.

Erbyn 1963, roedd 200 o lefydd yng Nghymru yn cymryd rhan yn Wythnos Cymorth Cristnogol. Pan mabwysiadwyd yr enw swyddogol ‘Christian Aid’ yn y 1960au, cadarnhawyd ‘Cymorth Cristnogol’ fel ein enw Cymraeg. Penodwyd aelod staff cyntaf Cymorth Cristnogol Cymru yn 1963, Dewi Lloyd Lewis yn Ysgrifennydd Cymru. 

 

Image credits and information i
1967, Dewi Lloyd Lewis gyda gwirfoddolwyr VSO ar ddiwrnod cyntaf y TREC-TOR yn cyfarfod â Cledwyn Hughes,Ysgrifennydd Gwladol Cymru/Dewi Lloyd Lewis with VSO volunteers on the first day of the TREC-TOR meeting Cledwyn Hughes,Secretary of State for Wales. Credit: Featured in ‘Beginnings’, The story of a pioneering generation, Dewi Lloyd Lewis.
1967, Dewi Lloyd Lews driving the tractor, with VSO volunteers on the first day of the TREC-TOR, a 600-mile tractor journey around Wales during Easter Week 1967. They met with Cledwyn Hughes MP for Ynys Môn and Secretary of State for Wales (pictured far right).

Gwelsom ymateb Cymru i adroddiad arwyddocaol Cyngor Eglwysi Prydain ‘Tlodi’r Byd a Chyfrifoldeb Prydeinig’ yn ystod y degawd hwn. I hyrwyddo’r adroddiad ac ysgogi  ymateb gwleidyddol a chyhoeddus, yn ystod wythnos y Pasg 1967 trefnodd Cymorth Cristnogol Cymru ‘TREC-TOR’, taith dractor 600 milltir o amgylch Cymru ar gyflymder o 17 milltir yr awr!

1970au

Fe wnaethon ni wneud y cyswllt rhwng addysgu ein cefnogwyr am achosion tlodi â gwaith roedd ein partneriaid dramor yn ei wneud i’w derfynnu. Codwyd ymwybyddiaeth hefyd o’r cysylltiad rhwng ein patrymau siopa a’r argyfwng bwyd yn fyd-eang drwy lansio ymgyrch i fyw’n syml. 

Yn y 1970au gwelsom ddechrau’r apeliadau enwadol yng Nghymru. Datblygodd y syniad yn ystod y 1960au yn tarddu o argymhelliad y Cenhedloedd Unedig bod gwledydd cyfoethog y byd yn cyfrannu 1% o Incwm Cyflawn Cenedlaethol eu gwlad i gefnogi gwledydd oedd yn datblygu. Er cytunwyd ar darged o 0.7% gan y CU yn 1970, awgrymwyd bod eglwysi yn gweithredu trwy esiampl trwy gyfrannu 1% o’u henillion blynyddol a dyma sut daeth yr apeliadau enwadol yn fyw. Mae patrwm yr apeliadau enwadol yn fyw mewn nifer o’r enwadau hyd heddiw. Dros y blynyddoedd maent wedi meithrin ein dealltwriaeth ar gyfrifoldeb byd-eang, tyfu cyfeillgarwch ac wedi galluogi gwaith arloesol mewn cymunedau ar draws y byd.

Ar gyfer Wythnos Cymorth Cristnogol yn 1972 estynnwyd gwahoddiad i lyfrgelloedd i greu arddangosfeydd Wythnos Cymorth Cristnogol. Yng Nghymru gwelwyd cymunedau oedd eu hunain wedi profi tlodi dwys, yn gwneud y cysylltiad rhwng eu profiadau eu hun a phrofiadau eu cymdogion byd-eang. Y flwyddyn honno, codwyd £100,000 gan bwyllgorau, capeli ac unigolion yng Nghymru.

Image credits and information i
Dewi Lloyd Lewis yn derbyn casgliad Wythnos Cymorth Cristnogol gan Gyngor Eglwysi Castell Nedd yn 1972. / Dewi Lloyd Lewis receives the Christian Aid Week collection from the Neath Council of Churches in 1972 Credit: Featured in ‘Beginnings’, The story of a pioneering generation, Dewi Lloyd Lewis.
Dewi Lloyd Lewis (Christian Aid’s first member of staff in Wales) receives the Christian Aid Week collection from the Neath Council of Churches in 1972

1980au

Mi wnaethom ni ymateb i'r sefyllfaoedd newyn dwys yn Ethiopia a sychder yn Mozambique. Arweiniwyd lobïau mawr ar Lywodraeth Prydain i alw am fwy o gymorth datblygu swyddogol. A daeth Cymorth Cristnogol â thros 60 o fudiadau at ei gilydd i greu’r Cynghrair De Affrica i alw am ddiwedd ar apartheid. 

Yng Nghymru yn 1986, Desmond Tutu oedd siaradwr gwadd yn nathliadau pen-blwydd 50 Cyngor Eglwysi Cymru, yn annerch eglwysi Cymru am hawliau dynol a galw am ddiwedd ar apartheid. Tyfodd Cymorth Cristnogol yng Nghymru llaw yn llaw â bywyd yr eglwysi, gan roi achos y tlawd yng nghanol ein bywyd ffydd. 

 

Image credits and information i
Roderick Bowen, Chair of the Christian Aid Committee of Wales from 1968-1989, with Desmond Tutu who was the keynote speaker at the Council of Churches for Wales’ 50th anniversary celebrations at the Family of God Festival, Llanelwedd 24 May 1986. Credit: Featured in ‘Beginnings’, The story of a pioneering generation, Dewi Lloyd Lewis.
Roderick Bowen, Chair of the Christian Aid Committee of Wales from 1968-1989, with Desmond Tutu who was the keynote speaker at the Council of Churches for Wales’ 50th anniversary celebrations at the Family of God Festival, Llanelwedd 24 May 1986.

1990au

Cysylltwyd gwaith mewn 50 o wledydd tlawd ag ymgyrchoedd ar gyfiawnder dyled, masnach deg a pholisïau’r IMF a’r World Bank. Heriwyd y stigma a’r gwahaniaethu a brofwyd gan bobl yn byw gyda HIV yn wledydd Affrica. Buom yn cydsefyll gyda ffoaduriaid yn Kosovo a darparu bwyd iddynt. A buom ynghlwm â creu’r Sefydliad Masnach Deg, braich y mudiad Masnach Deg yn y DU. 

 

Image credits and information i
Cefnogwyr Cymorth Cristnogol o Gymru yn Köln yn 1999 yn cario arwyddion ‘Mae dyled yn lladd.’ / Christian Aid supporters from Wales in Köln in 1999 with placards which read ‘Break the chains of debt’. Credit: Elenid Jones/Christian Aid
Christian Aid supporters from Wales in Köln in 1999 with placards which read ‘Break the chains of debt’.

Ymunodd cefnogwyr â weithgarwch y glymblaid Jiwbilî 2000 i alw am ganslo dyledion y gwledydd oedd gyda’r dyledion mwyaf yn y byd. Aeth cefnogwyr Cymorth Cristnogol o Gymru i Köln yn yr Almaen i godi eu llais yn y G8 ym 1999.  

Ydy chi wedi eich ysbrydoli?

Mae'r gwaith yn dal i barhau.

2000au

Fe ymgyrchon ni i weld terfyn ar dlodi yn ystod rhyfel yn erbyn terfysgaeth. Cyrhaeddwyd dros 500,000 o bobl gyda bwyd, lloches a gofal iechyd ar ôl y Tswnami yn Asia. Cyhoeddwyd y ffaith bod gwledydd sy’n datblygu yn colli mwy o arian drwy gorfforaethau mawr yn osgoi talu trethi nag y maent yn ei dderbyn drwy gymorth swyddogol.

Ymunodd ein cefnogwyr a'n partneriaid yng Nghymru yn yr ymgyrch Make Poverty History yn 2005 i alw am weithredu brys ar dlodi byd-eang ar draws Cymru a’r DU. Sefydlwyd y Rhaglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru yn 2006 mewn ymateb i’r ymgyrch. 

 

Yn 2007 cerddodd grŵp o gefnogwyr, gan gynnwys John Rowlands o Gymru, 1,000 o filltiroedd, gan godi ymwybyddiaeth o effaith newid yn yr hinsawdd ar gymunedau yn fyd-eang, a galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ‘Dorri’r Carbon'. Ac wedi dwy flynedd o ymgyrchu yn rhan o’r Fforwm Masnach Deg Cymru, ar y 6 Mehefin 2008 daeth Cymru'n Genedl Masnach Deg cynta’r byd.

Image credits and information i
2007, John Rowlands ymhlith grŵp o gefnogwyr yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ‘Dorri’r Carbon / John Rowlands was part of a group of supporters calling on the UK Government to ‘Cut the Carbon’.
2007, John Rowlands was part of a group of supporters who walker 1,000 miltes around the UK to raise awareness of the impact of climate change on communities globally, and calling on the UK Government to ‘Cut the Carbon’.

2010au

Codwyd ymwybyddiaeth ac ymgyrchwyd yn erbyn newid hinsawdd. Parhaom i weithio gyda phartneriaid lleol i wneud gwahaniaeth ymarferol i fywydau niferoedd cynyddol o ffoaduriaid, wrth ymgyrchu ac eirioli dros newid yn fyd-eang. 

 

 

Image credits and information i
November 2010, Dai the Dragon and representatives of Stop Climate Chaos Cymru met Jane Davidson, Welsh Assembly Environment Minister at the Senedd, before to heading to the UN Climate Change Conference COP15 in Cancún, Mexico. A scroll with 'Dai's Demands Credit: Ian Homer/Stop Climate Chaos Cymru
November 2010, Dai the Dragon and representatives of Stop Climate Chaos Cymru met Jane Davidson, Welsh Assembly Environment Minister at the Senedd, before to heading to the UN Climate Change Conference COP15 in Cancún, Mexico. A scroll with 'Dai's Demands' - requests from Stop Climate Chaos Cymru was presented to the Minister.

Trwy’r 2010au ar y cyd â’r clymbleidiau Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru a’r Gynghrair Datblygu Gynaliadwy, buom yn ymgyrchu i weld Llywodraeth Cymru yn deddfu ar ymrwymiad i fod yn Gymru sydd yn atebol ac yn gyfrifol ar lefel fyd-eang. Yn 2015 cyflwynwyd y ddeddfwriaeth arloesol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn 2016 cyflwynwyd targedau ar allyriadau carbon yn Neddf yr Amgylchedd

Yn ystod cyfnod Adfent 2016, mewn undod â miliynau o bobl ledled y byd wedi’u gorfodi i ffoi o’u cartrefi, cerddodd grŵp o gerddwyr 140 milltir o Fethlehem yn Sir Gaerfyrddin i’r Aifft yn Sir Ddinbych, gan godi ymwybyddiaeth a chodi arian ar hyd y ffordd.   

 

Image credits and information i
2016, Taith Adfent ‘Ffoi i’r Aifft’ mewn undod â miliynau o bobl ledled y byd wedi’u gorfodi o’u cartrefi, Moel Arthur. 2016, Escape to Egypt walk in solidarity with millions displaced from their homes around the world, Moel Arthur. Credit: Huw Powell-Davies/EBCPCW
Escape to Egypt walk in solidarity with millions displaced from their homes around the world, Moel Arthur.

2020au

Rydym yn parhau i ymateb i sefyllfaoedd dyngarol dwys yn Afghanistan, Gaza, Swdan a De Swdan, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo a mwy, gan godi llais dros heddwch a chyfiawnder hinsawdd a dyled. 

Image credits and information i
Welsh learners at Senedd C4CJ exhibition, Nov 2024 Credit: Meg Thomason/Christian Aid
Welsh learners at Senedd C4CJ exhibition, Nov 2024

Yn 2024, lansiwyd 'Cymodgion Byd-eang', cynllun achredu i ysgolion i arfogi dysgwyr ledled Cymru i fynd i’r afael â materion anghyfiawnder a thlodi ac i dyfu'n dinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a’r byd. 

Ac ym mis Tachwedd 2024, aeth pobl ifanc yng Nghymru â’u galwad am gyfiawnder hinsawdd i’r Senedd yn ystod COP29 a Wythnos Hinsawdd Cymru fel rhan o brosiect 'Creadigol dros Gyfiawnder Hinsawdd'.

Yn 2025 nodwyd 80 mlynedd o waith Cymorth Cristnogol. Ymunodd criw mawr o Gymru â’r oedfa diolchgarwch yn Abaty San Steffan, wrth i nifer gynnal oedfaon a digwyddiadau lleol Cymru-gyfan.

Image credits and information i
Cefnogwyr CC o Gymru o flaen Abaty Westminster./ Wales CA supporters in front of Westminster Abbey. Credit: Robin Prime / Christian Aid
Group of Wales supporters in front of Westminster Abbey for the 80th anniversary service
Diolch i'n cefnogwyr anhygoel am bob ffyddlondeb at y weledigaeth o fyd heb dlodi.

Trwy'r degawdau fe welwn daith hir a heriol, ond mewn partneriaeth a trwy rym anorchfygol gobaith, gwelwn yn ddyddiol fod newid yn bosib. A wnewch chi ymuno yn y daith?

Gweld mwy

Cymorth Cristnogol Cymru

Newyddion a chyfleuon i ymuno gyda beth sy'n mynd ymlaen yng Nghymru.

Restore Campaign - Guide for engaging your MP

Find out about the Restore campaign and what to ask your MP.