Skip to main content
Published on 29 September 2025

Eglwysi ledled Cymru yn ymgynnull y tu allan i Senedd Cymru #GweddïoAmHeddwch yn y Dwyrain Canol ar ddydd Mercher 24 Medi 2025

Image credits and information i
Gwleidyddion yn y digwyddiad #GweddiDrosHeddwch tu allan i'r Senedd Medi 24 2025. Politicians at the #PrayForPeace Senedd event Sept 24 2025. Credit: Georgia Day / Church in Wales
Politicians at the pray for peace Senedd event on Sep 24 2025

Ar ddydd Mercher 24 Medi 2025, ymunodd Aelodau o'r Senedd ag arweinwyr eglwysi, aelodau eglwysi a cynrychiolwyr o fudiadau dyngarol Cymorth Cristnogol, Embrace the Middle East a CAFOD yng Nghymru ynghyd y tu allan i Senedd Cymru mewn ymateb i'r argyfwng sy’n gwaethygu yn Gaza a’r Llain Gorllewinol.

Image credits and information i
Church leaders, church goers and representatives UK Christian agencies outside the Welsh Parliament in response to the escalating crisis in Gaza and the West Bank on Wednesday 24 September 2025. Credit: Rebecca Elliott / Christian Aid
Churches and organisations gather in front of Senedd building to pray for peace in the Middle East

Ymhlith y rhai a gymerodd ran mewn moment o weddi gyhoeddus y tu allan i’r Senedd oedd Mari McNeill, Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru; Y Parchedicaf Cherry Vann, Archesgob Cymru; Dr Cynan Llwyd, Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn; Elinor Wyn Reynolds, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg; Y Parchedig Andrew Charlesworth, cyd-Gadeirydd Synod Cymru yr Eglwys Fethodistaidd; yr Hybarch Mones Farah, Esgobaeth Tyddewi; a Katie Lewis, Embrace the Middle East. Ar ôl amser o weddi, bu’r rhai a oedd wedi ymgynnull yn cyd-sefyll mewn distawrwydd gan ddal Llinell Goch dros Gaza.

Image credits and information i
Mari McNeill yn siarad yn #GweddiDrosHeddwch tu allan i'r Sened Medi 24ain 2025. Mari McNeill speaking at the #PrayForPeace Senedd event Sept 24th 2025. Credit: Georgia Day / Church in Wales
Mari McNeill talking at #PrayerForPeace Senedd event Sep 24 2025

Meddai Mari McNeill, Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru, tu allan i’r Senedd: “Rydym yma tu allan i Senedd Cymru oherwydd ein bod yn dyst i’r trais dinistriol sy’n gwaethygu yn Gaza a’r Llain Orllewinol. Mae lleisiau arweinwyr eglwysig Palestinaidd dros undod a terfyn ar y gwrthdaro yn atseinio ar draws yr eglwysi yn fyd-eang, i ni yng Nghymru, gan ein hannog i ymateb.

Heddiw yn Gaza, fe welwn ddadleoliad gorfodol diddiwedd Palesteiniaid. Mae 90% o boblogaeth Gaza wedi’u dadleoli yn ystod y gwrthdaro — gyda rhai teuluoedd wedi gorfod ffoi hyd at ddeg gwaith. Ond does unman diogel i fynd, gyda dros 60,000 o Balesteiniaid wedi’u lladd oherwydd gweithredoedd milwrol parhaus Israel, ac mae llawer yn wynebu newyn.      

“Rydym oll yma oherwydd credwn fod llinell goch ar ôl llinell goch yn cael ei croesi a bod tystiolaeth Gristnogol weladwy ac unedig yn y foment hynod ddifrifol hon yn angenrheidiol —tystiolaeth sydd yn adlewyrchu ein hymrwymiad cytûn dros heddwch, cymod, ac urddas i holl bobl Duw.

“Rydym yn ddiolchar i cymaint sydd wedi ymuno o ar draws Cymru ac yn gobeithio y bydd cynifer o eglwysi â phosibl ledled Cymru yn parhau i ymuno mewn gweddi a gweithred. Credwn, trwy sefyll gyda’n gilydd, mewn undod â’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan drais ac anghyfiawnder, y gallwn atgyfnerthu’r alwad am gadoediad parhaol ac uniongyrchol, rhyddhau’r gwystlon, mynediad llawn i gymorth dyngarol, ac am broses heddwch cyfiawn ac ystyrlon.”

Image credits and information i
Cefnogwyr yn ymgynull yn y digwyddiad Senedd #GweddiDrosHeddwch. Supporters gathered at #PrayerForPeace Senedd event. Credit: Rebecca Elliott / Christian Aid
Supporters gathered at #PrayerForPeace Senedd event

Roedd y foment tu allan i'r Senedd yn dilyn Diwrnod Heddwch y Byd y CU (dydd Sul 21 Medi) a’r alwad fyd-eang i weddi gan Gyngor Eglwysi’r Byd, yn galw ar eglwysi i weddïo ac i gyd-sefyll mewn tystiolaeth gyhoeddus o undod â’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan y trais yn y Dwyrain Canol, gan gynnwys Cristnogion Palesteinaidd. Trefnwyd y cynlluniau hyn mewn cydweithrediad agos rhwng asiantaethau Cristnogol Prydeinig gan gynnwys Cymorth Cristnogol, CAFOD, Tearfund, Embrace the Middle East, Amos Trust, Sabeel-Kairos, Y Crynwyr ym Mhrydain, All We Can, Reconciling Leaders Network, Difference, Friends of the Holy Land, USPG, a’r Centre for Missionaries from the Majority World. 

Ymhlith yr enwadau a rhwydweithiau eglwysig yn ymuno â’r alwad i weddi a thystiolaeth gyhoeddus yng Nghymru oedd Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, Yr Eglwys yng Nghymru, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Undeb Bedyddwyr Cymru, Synod Cymru yr Eglwys Fethodistaidd, a Synod Cymru yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig. 

Image credits and information i
Churches and Christian organisations from across Wales gather together outside Senedd Cymru #PrayForPeace in the Middle East on Wednesday 24 September 2025 Credit: Rebecca Elliott / Christian Aid
Churches across Wales gather together outside Senedd Cymru #PrayForPeace in the Middle East on Wednesday 24 September 2025

Mae Cymorth Cristnogol Cymru yn galw ar eglwysi lleol ledled Cymru i lunio Llinell Goch dros Gaza, gan fynegi ein hundod â’n cymdogion yn Gaza a galw am weithredu mwy pendant. Ynghyd â’r alwad i weddi a’r weithred Llinell Goch, mae gan Cymorth Cristnogol amrywiaeth o adnoddau i helpu eglwysi i ymuno â’r alwad am heddwch cyfiawn. Mae’r rhain yn cynnwys tri ffilm sy’n cynnwys lleisiau o Balesteina dan feddiant, ynghyd ag adnoddau i eglwysi yn Gymraeg a Saesneg, sydd ar gael trwy ymgyrch Heddwch Cyfiawn.   

Image credits and information i
Cefnogwyr yn ymgynull yn y digwyddiad Senedd #GweddiDrosHeddwch. Supporters gathered at #PrayerForPeace Senedd event. Credit: Rebecca Elliott / Christian Aid
Supporters gathered at #PrayerForPeace Senedd event.

Anogodd Dr Cynan Llwyd, Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, wrth eglwysi i archwilio’r adnoddau Heddwch Cyfiawn newydd :“Eleni yng Nghymru rydym yn nodi 100 mlynedd ers i’r eglwysi uno o dan Apêl Heddwch Arweinwyr Eglwysi Cymru 1925 i America. Roedd yn ddatganiad dewr a chadarn yn erbyn gwrthdaro, gan danlinellu’r alwad Feiblaidd, wedi’i seilio ar ddysgeidiaeth Crist, sy’n galw ar ei ddilynwyr i fod yn wneuthurwyr heddwch unedig. 

“Mae’r alwad hon i weddi a thystiolaeth, ynghyd ag adnoddau newydd Heddwch Cyfiawn Cymorth Cristnogol yn gyfle i ni gael ein harwain gan y rhai sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan ryfel a thrais yn y Dwyrain Canol heddiw. Gadewch i ni fyfyrio ar ein hymateb yn 2025 i alwad Crist sy’n ein galw i undod, cyfiawnder, tosturi ac i heddwch, gan wreiddio hynny yn fwyfwy yng nghymunedau ac eglwysi Cymru.” 

Image credits and information i
Dr Cynan Llwyd, Archesgob Cymru Cherry Vann a Mari Mcneill yn y digwyddiad Senedd #GweddiDrosHeddwch yn y Dwyrain Canol. Dr Cynan Llwyd, Archbishop of Wales Cherry Vann and Mari Mcneill at the Senedd #PrayerforPeace in the Middle East event. #Prayer Credit: Rebecca Elliott / Christian Aid
Dr Cynan Llwyd, Archbisop of Wales Cherry Vann and Mari Mcneill

Dywedodd Y Parchedicaf Cherry Vann, Archesgob Cymru, "Yr ydym yma i weddïo dros heddwch. Yr ydym yma i annog Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraethau ledled y byd, i wneud pob ymdrech bosibl i sicrhau datrysiad heddychlon. Nid yw rhyfel yn cynnig atebion."

Gweddi dros y Tir Sanctaidd  

Dad Grasol, daeth dy Fab bendigedig, Iesu Grist o’r nefoedd i fod yn fara’r gwirionedd sy’n rhoi bywyd i’r byd: 

Yn dy drugaredd, dyro fwyd i bawb yn Gaza a thu hwnt sy’n dioddef o newyn er mwyn iddynt dderbyn bara materol i fwydo eu cyrff a bara nefol i gynnal eu heneidiau. 

Trwy rym dy Ysbryd, tyrd â’r rhyfel creulon hwn i ben ar frys gyda rhyddhad i’r holl garcharorion, gofal meddygol i’r clwyfedig, cysur i’r rhai sydd wedi colli anwyliaid ac agor llwybr i greu heddwch cyfiawn a pharhaol yma yn y wlad lle bu dy Fab, ein Harglwydd Iesu Grist ei hun yn gweini yn ystod ei fywyd daearol. 

Yr hwn sy’n byw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Sanctaidd, un Duw, yn awr a hyd byth. 

Amen

Y Parchedicaf Ddr. Hosam E. Naoum, Archesgob Anglicanaidd yn Jerwsalem, Awst 2025