Skip to main content
Published on 16 July 2026

Ar ddydd Mercher 24 Mehefin, tarodd dau ddaeargryn dinistriol Venezuela o fewn eiliadau i'w gilydd. Dyma oedd y daeargrynfeydd mwyaf pwerus i daro Venezuela mewn dros ganrif. 

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod miliynau o bobl wedi’u heffeithio, gyda mwy ‘na dwy filiwn o bobl yn yr ardaloedd sydd wedi’u heffeithio mwyaf. Yn ôl y CU, mae 680,000 o blant mewn angen ar gymorth dyngarol – mae hyn yn fwy ‘na’r nifer o blant yng Nghymru. Mae teuluoedd wedi colli anwyliaid, cartrefi a synnwyr o ddiogelwch. 

Yn yr oriau yn dilyn y daeargrynfeydd dinistriol, siaradais gyda Carlos E. Mejia, Pennaeth Effaith/Impact Cymorth Cristnogol yn America Ladin a'r Caribî, sydd yn arwain ar y gwaith cydlynu gyda'n partneriaid yn Venezuela. Meddai bod angen mawr am bethau sylfaenol fel blancedi, tyweli, citiau hylendid, dŵr, bwyd, a chymorth seicolegol. 

‘Mae pobl yn delio â cholled fawr, wedi colli anwyliaid, cartrefi, pob dim o fewn eiliadau... 

Nid ydych yn bell oddi wrthym. Mae’r byd hwn yn perthyn i bob un ohonom. Dyma’r amser i roi ein dinasyddiaeth fyd-eang ar waith. Mae gweithredoedd o undod yn ein symud ni i gyd ymlaen, tuag at yr urddas a’r hapusrwydd yr ydym oll yn eu haeddu. 

Rwy’n annog pobl Cymru, fel yr wyf yn annog pobl ym mhobman, i weithredu fel dinasyddion y byd heddiw wrth i ni gofio ein brodyr a’n chwiorydd yn Venezuela.’

- Carlos E. Mejia

Image credits and information i
DEC Venezuela Emergency Appeal launch at the Senedd with partner charities and MSs Credit: Matthew Horwood/DEC Cymru
DEC Venezuela appeal launch Senedd

Ar 1 Gorffennaf, fe lansiwyd apêl DEC ar draws y DU er mwyn cyrraedd anghenion cynyddol pobl sydd yn brwydro i oroesi. Ar y diwrnod yma, ymunom ni gyda’n partneriaid DEC Cymru tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd. Mae Cymorth Cristnogol yn un o’r 15 elusen sy’n aelodau DEC - ac yn un o 5 aelod yng Nghymru. Wrth i ni gyd-weithio, gwyddom ein bod yn  gallu gwneud mwy ac yn gyflymach i gyrraedd y rhai sydd wedi eu heffeithio fwyaf. 

Image credits and information i
The team traveled to Caracas to assess the conditions of two additional potential shelter sites: the Coliseo and Parque del Oeste. June 28 2026. Credit: Freisy Gonzalez/LWF
The team traveled to Caracas to assess the conditions of two additional potential shelter sites: the Coliseo and Parque del Oeste.  June 28 2026.

Wrth rannu’r galwad i weddïo ac i ymateb, meddai Archesgob Cymru, y Parchedicaf Cherry Vann:

‘Ni allai neb beidio â brawychu wrth weld y dioddefaint trasig a achoswyd gan y daeargrynfeydd dinistriol yn Venezuela.

‘Mae ein calonnau yn brifo dros y dioddefwyr a'u teuluoedd, ac rydym yn cadw cenedl Venezuela yn ein gweddïau, gan ofyn i Dduw nerthu breichiau’r achubwyr a'r gweithwyr cymorth a chysuro a gwarchod y dioddefwyr. Fel rhan o'n cenhadaeth fel Cristnogion, rydym hefyd yn annog cefnogaeth ymarferol ac ariannol i'n hasiantaethau fel Cymorth Cristnogol sy'n gweithio i helpu pawb sydd wedi'u heffeithio gan y trychineb. Prin y gallai eu gwaith i ddod â gobaith i bobl yn yr amgylchiadau mwyaf torcalonnus fod yn fwy hanfodol.’

Diolch o galon

Mae’r gefnogaeth a’r undod gan bobl yma yng Nghymru ac o gwmpas y Deyrnas Unedig yn codi calon – ac mae’n cadw gobaith yn fyw. Rydym yn hynod ddiolchgar am bob gweddi, pob casgliad a phob rhodd.

Mae £800,000 wedi ei godi yng Nghymru lan at 16 Gorffennaf, diolch!

Canfyddwch mwy am sut mae ein partneriaid yn cyrraedd pobl mewn angen ac i gefnogi eu hymdrech dros yr wythnosau a misoedd nesaf. 

Image credits and information i
£800,000 wedi ei godi yng Nghymru, diolch!
£800,000 wedi ei godi yng Nghymru, diolch!

Gweddi dros bob un sydd wedi’u heffeithio gan ddaeargryn Venezuela

Dduw cariad,

Wrth i’r ddaear ysgwyd a chartrefi ddymchwel yn llwch, cydia yn ein calonnau, Arglwydd.

Wrth i ôl-gryniadau achosi i’r ofn barhau, cydia yn ein calonnau, Arglwydd.

Wrth i alar ysgwyd teuluoedd i’r byw, cydia yn ein calonnau, Arglwydd.

Anfon ein dwylo a'n traed i gynorthwyo mewn unrhyw ffordd wrth i’n brodyr a’n chwiorydd fyw drwy hyn yn Venezuela.

Boed inni Arglwydd ymateb mewn ffordd sy’n cydweddu â’th ras a’th gariad di.

Amen.

Amen