Skip to main content

Ymgyrch cymynroddion eciwmenaidd unigryw ydy Ewyllys Da | Faith Will, gyda’r bwriad o gynyddu sgyrsiau am rhoddion mewn Ewyllys.

Mae eich ffydd yn bwerus. Felly hefyd eich Ewyllys.

Ers lansio Faith Will yn 2023, mae’r ymgyrch wedi tyfu a thyfu. Rydym yn falch iawn i ddarparu Ewyllys Da | Faith Will i gynulleidfoedd yng Nghymru am y tro cyntaf o hydref 2025, ynghyd â’n partneriaid eglwysig – Yr Eglwys yng Nghymru, Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg – sydd yn ymuno â’r ymgyrch ynghyd â'r Crynwyr, Yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig, Eglwys Loegr ac Eglwys yr Alban.

Logo Ewyllys da / Faith Will

Rydym i gyd yn gadael ein ôl troed ar y byd, trwy’r bywydau rydym wedi’u cyffwrdd, yr achosion rydym wedi’u cefnogi, a’r camau gweithredu rydym wedi’u cymryd.  

Mae Ewyllys Da | Faith Will yn focysu ar un math o rhodd arbennig – cymunrodd neu legacy. Mae’r rhoddion arbennig hyn yn ffordd bwerus o gynnal tystiolaeth ein heglwys leol, ac i gefnogi gwaith Cymorth Cristnogol. 

Ond rydyn ni’n gwybod y gall fod yn anodd cychwyn y sgwrs. Dyna pam mae Cymorth Cristnogol a’n partneriaid eglwysig wedi creu yr ymgyrch eciwmenaidd cymynroddion unigryw hon, Ewyllys Da | Faith Will

Mae rhoddion mewn Ewyllys yn ffordd i fendithio gwaith yr eglwys yn lleol ac i greu newid parhaol yn fyd-eang. 

Galluogi newid parhaol – yn lleol ac yn fyd-eang

Mae rhoddion mewn Ewyllys yn ffordd i fendithio gwaith yr eglwys yn lleol ac i greu newid parhaol yn fyd-eang. 

Cadw ffydd yn fyw

Mae Ewyllys Da | Faith Will yn estyn gwahoddiad i gynulleidfaoedd o unrhyw enwad i ganfod adnoddau am ddim i'w defnyddio mewn gwasanaethau, cyfarfodydd a sesiynau lle gallwch siarad am bŵer rhoddion mewn Ewyllysiau a sut y gall eich haelioni hwyluso newid parhaol yn eich cymunedau lleol a ledled y byd.  

Image credits and information i
Elenid Jones yn ei gardd / Elenid Jones in her garden. Credit: Rhodri Darcy / Undeb yr Annibynnwyr
Elenid Jones in her garden

Elenid Jones, Cymunroddwr

Dim ond un bywyd sydd gyda ni i gyflawni'r hyn y gallwn, a thrwy adael rhodd yn fy ewyllys i Cymorth Cristnogol 'rydw i'n helpu pobl i allu byw bywydau cyflawn yn y dyfodol. Wedi fy nyddiau i, byddaf yn parhau i wneud y byd yn lle gwell i bobl fyw ynddo a chyflawni neges Iesu gyda ffydd, gobaith a chariad.

Adnoddau

Fe garwn estyn gwahoddiad i archebu a lawr lwytho adnoddau Ewyllys Da | Faith Will.

Mae amrywiaeth o adnoddau i eglwysi ar gael yn Gymraeg a Saesneg, gan gynnwys ffilm fer ddwyieithog, llyfryn dwyieithog ar gyfer cynulleidfaoedd, a chanllaw addoli yn Gymraeg a Saesneg.  

Beth am wahodd siaradwr o Cymorth Cristnogol i'ch gwasanaeth neu ddigwyddiad a darganfod sut y gall rhodd mewn Ewyllys wneud gwahaniaeth parhaol? 

Welsh Faith Will resources

Ewyllys Da | Faith Will – ymgyrch cymunroddion eciwmenaidd unigryw.

Ewyllys Da Faith Will partner logos

Book a Faith Will Speaker

Invite a Christian Aid speaker to your service or event and explore how legacy giving can make a lasting difference.

5 inspiring Faith Will ideas for your church

Our selection of ideas to help you start your Faith Will conversation.

Faith Will: Imagine the change we can make together

Discover how Faith Will is empowering churches and Quaker meetings to embrace the power of legacy gifts.