Golwg nôl ar Oedfa 80 Cymorth Cristnogol yng Nghaerdydd
Am noson arbennig o adlewyrchu, gweddi a mawl dwyieithog yn nodi 80 mlynedd o obaith ar 17 Medi 2025 yn Tabernacl ar yr Ais yng Nghaerdydd. Braint oedd cael ymgynnull gyda gwirfoddolwyr, cefnogwyr, arweinwyr eglwysig, dysgwyr ifanc a’u hathrawon, cynrychiolwyr o’r enwadau, cydweithwyr yn y sector dyngarol ac undod byd-eang, cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a Senedd Cymru, ynghyd â Chyfarwyddwyr a Bwrdd Ymddiriedolwyr y mudiad.
‘Na, mae'r ARGLWYDD wedi dweud beth sy'n dda, a beth mae e eisiau gen ti: Hybu cyfiawnder, bod yn hael bob amser, a byw'n wylaidd ac ufudd i dy Dduw.’ Micha 6:8
Addasiad o drefn gwasanaeth y noson i ddefnyddio yn y capel neu eglwys.
Image credits and information
Cymru a 80 mlynedd
Croesawyd pawb i’r oedfa gan y Parchg Dr Rosa Hunt, gweinidog Tabernacl Caerdydd, mewn galwad i addoli.
Arweiniwyd y gwasanaeth gan Mari McNeill, Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru, a’r Parch Andrew Sully, Cadeirydd Pwyllgor Cenedlaethol Cymorth Cristnogol Cymru. Clywsom sut mae eglwysi lleol yng Nghymru wedi bod yn trefnu dan faner Grwpiau Cymorth Cristnogol ers y cychwyn cyntaf.
Roedd grŵp Cymorth Cristnogol y Mwmbwls yn un o’r grwpiau cyntaf i’w sefydlu yng Nghymru, fe’i sefydlwyd yn 1948 gan Gwynn Hodge, aelod o Eglwys y Bedyddwyr y Mwmbwls a Charcharor Rhyfel yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod y rhyfel, gorfodwyd ef i weithio ar y Rheilffordd Marwolaeth yn Burma, Myanmar bellach. Unwaith adref, ac wedi’i ysbrydoli gan garedigrwydd pentrefwyr lleol Burma a wthiodd fwyd ffres drwy ffens ei wersyll carchar, ymrwymodd i wneud popeth o fewn ei allu dros bobl mewn angen.
Heddiw, mae cefnogaeth eglwysi lleol a Grwpiau Cymorth Cristnogol yn ganolog i Cymorth Cristnogol Cymru, wedi’i arwain gan wirfoddolwyr ymroddgar a ffyddlon sy’n ysgogi gweithredu yn ein cymunedau, mewn byd sy’n dal i hiraethu am heddwch a chyfiawnder.
Image credits and information
Myfyrio ar 80 mlynedd – Sarah Mullally
Rhannwyd myfyrdod ar 80 mlynedd o hanes Cymorth Cristnogol gan Gadeirydd Ymddiriedolwyr y mudiad, yr Esgob Sarah Mullally, gan edrych yn ôl ar y daith ryfeddol y mae Cymorth Cristnogol wedi’i theithio. Cawsom ein hatgoffa gan Sarah fod Cymorth Cristnogol wedi dechrau gyda gweithred o undod — pan ymatebodd eglwysi ledled Prydain i ddinistr y rhyfel yn 1945. Wrth fynd â ni drwy’r degawdau o ymateb i newyn, llifogydd, dadleoliad pobl ac ymgyrchu yn erbyn apartheid, i ddyled fyd-eang, osgoi trethi a’r argyfwng hinsawdd, anogodd Sarah i ni i ystyried sut mae’r genhadaeth yn parhau hyd heddiw.
‘Heddiw ac yfory a’r diwrnod wedyn, yn hytrach na meithrin ofn a chasineb, byddwn yn dewis ymateb trwy roi gobaith ar waith. Daw newid oherwydd bod cewri bob dydd yn dal i ddod â grym anorchfygol gobaith yn fyw. Rydym yn dewis cariad, ac mae gobaith yn anorchfygol.’
Clywsom leisiau ein partneriaid yn Sierra Leone sydd yn cefnogi cymunedau sydd yn profi effeithiau’r argyfwng hinsawdd.
Lleisiau o Sierra Leone
Clywsom leisiau ein partneriaid yn Sierra Leone sydd yn cefnogi cymunedau sydd yn profi effeithiau’r argyfwng hinsawdd.
‘Mae gobaith yn weladwy’ – Patrick Watt
‘Dŷn ni’n gwybod y byddwn ni ddim yn cael ein siomi yn y gobaith yna, am fod Duw eisoes wedi tywallt ei gariad yn ein calonnau drwy roi’r Ysbryd Glân i ni!’ Rhufeiniaid 5: 5
Rhannodd Patrick Watt, Prif Weithredwr Cymorth Cristnogol, anerchiad ar Rufeiniaid 5:1–5 a thema ‘grym anorchfygol gobaith’. Cawsom ein hatgoffa bod gobaith yn weladwy:
‘Mae gobaith yn weladwy, yn ein hymgyrchu, ac yn y gwaith y mae ein partneriaid yn ei wneud yn Gaza yng ngwyneb trychineb dyngarol,’ ac ein bod yn credu mewn Duw sy’n mynd tu hwnt i’n disgwyliadau dro ar ôl tro.
Clywsom leisiau ein partneriaid yn India sydd yn herio’r arfer o lanhau carthion â llaw ac yn ceisio rhyddhad ac adferiad i gymunedau Dalit.
Lleisiau o India
Clywsom leisiau ein partneriaid yn India sydd yn herio’r arfer o lanhau carthion â llaw ac yn ceisio rhyddhad ac adferiad i gymunedau Dalit.
‘Mae gobaith yn weithredol’ – Jane Hutt AS
Wrth fynychu’r gwasanaeth ar ran Llywodraeth Cymru, rhannodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, sut y gall cenhedloedd bach wneud gwahaniaeth mawr a’r rôl hanfodol mae cymunedau ffydd yn chwarae wrth fynd i’r afael ag anghyfiawnder a thlodi ledled y byd ac yng Nghymru: ‘Mae gobaith yn hanfodol ar gyfer cydlyniant cymunedol, mae’n rym pwerus er daioni.’
‘Mae gwaith Cymorth Cristnogol yn sefyll fel goleuni gobaith. Boed iddo barhau am amser maith.’
Ail-ymrwymo a rhoi diolch, gyda'n gilydd
Wrth i ni roi diolch am wyth degawd o dystiolaeth ffyddlon a gweithredu dewr, buom hefyd yn cydnabod nad yw’r gwaith wedi ei orffen. Roedd geiriau o ail-ymrwymiad a ysgrifennwyd gan Dr Cynan Llwyd, Ysgrifennyd Cyffredinol Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, yn alwad rymus i weithredu: ‘Wedi ein gwreiddio mewn etifeddiaeth o gân a stori, wedi ein hysbrydoli gan genedlaethau a weithiodd ac a weddïodd dros fyd tecach, safwn gyda’n gilydd mewn gobaith.’
Mewn foment o ail-ymrwymo gweladwy, bu cynrychiolwyr o’r eglwysi sydd yn noddi gwaith Cymorth Cristnogol yng Nghymru yn cyd-sefyll, cyn i’r Parchg Nan Powell Davies, Ysgifrennydd Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru ein harwain mewn gweddi.
Wedi ei ysbrydoli gan yr emynau ‘O Fryniau Caersalem’ a ‘Pen Calfaria’, darllenodd Dr Rowan Williams ei gerdd arbennig ar gyfer achlysur Cymorth Cristnogol yn 80 eleni.
Clywsom hefyd gerdd gan Dr Grahame Davies CVO, ‘Cymer fi gyda thi‘. Yn seiliedig nid ar bregeth olaf Dewi Sant (lle clywn y geiriau enwog, ‘gwnewch y pethau bychain’) ond ar ei eiriau olaf, ‘Cymer fi gyda thi’, fel y ceir yn hanes Rhigyfarch. Darllenwyd y gerdd gan Grahame gyda George Hurst a Florence Leighton, dysgwyr Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru St Andrew’s Major.
Image credits and information
Ymlaen mewn gobaith
Mae ein hanes yn ein herio ac yn ein hysbrydoli, tra bod lleisiau ein partneriaid heddiw yn ein symud ymlaen mewn gobaith. Diolch am gydsefyll gyda ni ac am yr ymrwymiad diflino i weithio dros heddwch a chyfiawnder, fel y gall pob cymydog brofi urddas a bywyd yn ei holl gyflawnder. Diolchwn i bawb a fynychodd am gyfranu at y noson rymus hon.
Dduw gobaith, llenwa ni â phob llawenydd a heddwch wrth gredu, fel y gallwn orlifo â grym anorchfygol gobaith.
Amen.